39 A'r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail; a'r praidd a ddug rai cylch‐frithion, a mân‐frithion, a mawr‐frithion.
40 A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tuag at y cylch‐frithion, ac at bob cochddu ymhlith praidd Laban; ac a osododd ddiadellau iddo ei hun o'r neilltu, ac nid gyda phraidd Laban y gosododd hwynt.
41 A phob amser y cyfebrai'r defaid cryfaf, Jacob a osodai'r gwiail o flaen y praidd yn y cwterydd, i gael ohonynt gyfebru wrth y gwiail;
42 Ond pan fyddai'r praidd yn weiniaid, ni osodai efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo Laban, a'r cryfaf eiddo Jacob.
43 A'r gŵr a gynyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morynion, a gweision, a chamelod, ac asynnod.