16 Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.
17 A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i'w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.
18 Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a wersyllodd o flaen y ddinas.
19 Ac a brynodd ran o'r maes y lledasai ei babell ynddo, o law meibion Hemor tad Sichem, am gan darn o arian:
20 Ac a osododd yno allor, ac a'i henwodd El‐Elohe‐Israel.