2 Ac ymlaen y gosododd efe y ddwy lawforwyn, a'u plant hwy, a Lea a'i phlant hithau yn ôl y rhai hynny, a Rahel a Joseff yn olaf.
3 Ac yntau a gerddodd o'u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd.
4 Ac Esau a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd ef: a hwy a wylasant.
5 Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu'r gwragedd, a'r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes Duw o'i ras i'th was di.
6 Yna y llawforynion a nesasant, hwynt‐hwy a'u plant, ac a ymgrymasant.
7 A Lea a nesaodd a'i phlant hithau, ac a ymgrymasant: ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel, ac a ymgrymasant.
8 Ac efe a ddywedodd, Pa beth yw gennyt yr holl fintai acw a gyfarfûm i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd.