9 Ac Esau a ddywedodd, Y mae gennyf fi ddigon, fy mrawd; bydded i ti yr hyn sydd gennyt.
10 A Jacob a ddywedodd, Nage; atolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymer fy anrheg o'm llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb Duw, a thi yn fodlon i mi.
11 Cymer, atolwg, fy mendith, yr hon a dducpwyd i ti; oblegid Duw a fu raslon i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymerodd;
12 Ac a ddywedodd, Cychwynnwn, ac awn: a mi a af o'th flaen di.
13 Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a'r gwartheg blithion gyda myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna'r holl braidd.
14 Aed, atolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo'r anifeiliaid sydd o'm blaen i, ac y gallo'r plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.
15 Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyda thi rai o'r bobl sydd gyda mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Caffwyf ffafr yng ngolwg fy arglwydd.