1 A Dina merch Lea, yr hon a ymddygasai hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wlad.
2 A Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad, a'i canfu hi, ac a'i cymerth hi, ac a orweddodd gyda hi, ac a'i treisiodd.
3 A'i enaid ef a lynodd wrth Dina merch Jacob; ie, efe a hoffodd y llances, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llances.
4 Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad, gan ddywedyd, Cymer y llances hon yn wraig i mi.