10 A chwi a gewch breswylio gyda ni, a'r wlad fydd o'ch blaen chwi: trigwch a negeseuwch ynddi, a cheisiwch feddiannau ynddi.
11 Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thad hi, ac wrth ei brodyr, Caffwyf ffafr yn eich golwg, a'r hyn a ddywedoch wrthyf a roddaf.
12 Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhysgaeth a rhodd, a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf: rhoddwch chwithau y llances i mi yn wraig.
13 A meibion Jacob a atebasant Sichem, a Hemor ei dad ef, yn dwyllodrus, ac a ddywedasant, oherwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt;
14 Ac a ddywedasant wrthynt, Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededig: oblegid gwarthrudd yw hynny i ni.
15 Ond yn hyn y cytunwn â chwi: Os byddwch fel nyni, gan enwaedu pob gwryw i chwi;
16 Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymerwn eich merched chwithau i ninnau, a ni a gyd‐drigwn â chwi, a ni a fyddwn yn un bobl.