16 A hwy a aethant ymaith o Bethel; ac yr oedd eto megis milltir o dir i ddyfod i Effrath: yno yr esgorodd Rahel, a bu galed arni wrth esgor.
17 A darfu, pan oedd galed arni wrth esgor, i'r fydwraig ddywedyd wrthi hi, Nac ofna; oblegid dyma hefyd i ti fab.
18 Darfu hefyd, wrth ymadael o'i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef Ben‐oni: ond ei dad a'i henwodd ef Benjamin.
19 A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem.
20 A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddiw.
21 Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei babell o'r tu hwnt i Migdal‐Edar.
22 A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad; a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg: