19 A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem.
20 A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddiw.
21 Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei babell o'r tu hwnt i Migdal‐Edar.
22 A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad; a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg:
23 Meibion Lea; Reuben, cyntaf‐anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Sabulon.
24 Meibion Rahel; Joseff a Benjamin.
25 A meibion Bilha, llawforwyn Rahel; Dan a Nafftali.