26 A meibion Silpa, llawforwyn Lea; Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia.
27 A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre, i Gaer‐Arba, hon yw Hebron, lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac.
28 A dyddiau Isaac oedd gan mlynedd a phedwar ugain mlynedd.
29 Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a'i feibion, Esau a Jacob, a'i claddasant ef.