3 A chyfodwn, ac esgynnwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i Dduw, yr hwn a'm gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda myfi yn y ffordd a gerddais.
4 A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a'r clustlysau oedd yn eu clustiau: a Jacob a'u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem.
5 A hwy a gychwynasant: ac ofn Duw oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o'u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ôl meibion Jacob.
6 A Jacob a ddaeth i Lus, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef;
7 Ac a adeiladodd yno allor, ac a enwodd y lle El‐bethel, oblegid yno yr ymddangosasai Duw iddo ef, pan ffoesai efe o ŵydd ei frawd.
8 A marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca; a hi a gladdwyd islaw Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno Alhon‐bacuth.
9 Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Jacob, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a'i bendithiodd ef.