7 Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd‐drigo: ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt, gan eu hanifeiliaid.
8 Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.
9 A dyma genedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir.
10 Dyma enwau meibion Esau: Eliffas, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau.
11 A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, a Gatam, a Chenas.
12 A Thimna oedd ordderchwraig i Eliffas, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliffas: dyma feibion Ada gwraig Esau.
13 A dyma feibion Reuel; Nahath a Sera, Samma a Missa: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.