15 A chyfarfu gŵr ag ef; ac wele efe yn crwydro yn y maes: a'r gŵr a ymofynnodd ag ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio?
16 Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi; mynega, atolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio?
17 A'r gŵr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a'u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseff a aeth ar ôl ei frodyr, ac a'u cafodd hwynt yn Dothan.
18 Hwythau a'i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef atynt, hwy a gyd‐fwriadasant yn ei erbyn ef, i'w ladd ef.
19 A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod.
20 Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o'r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a'i bwytaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o'i freuddwydion ef.
21 A Reuben a glybu, ac a'i hachubodd ef o'u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef.