17 A'r gŵr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a'u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseff a aeth ar ôl ei frodyr, ac a'u cafodd hwynt yn Dothan.
18 Hwythau a'i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef atynt, hwy a gyd‐fwriadasant yn ei erbyn ef, i'w ladd ef.
19 A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod.
20 Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o'r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a'i bwytaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o'i freuddwydion ef.
21 A Reuben a glybu, ac a'i hachubodd ef o'u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef.
22 Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i'r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno: fel yr achubai ef o'u llaw hwynt, i'w ddwyn eilwaith at ei dad.
23 A bu, pan ddaeth Joseff at ei frodyr, iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff, sef y siaced fraith ydoedd amdano ef.