2 Dyma genedlaethau Jacob. Joseff, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyda'i frodyr ar y praidd: a'r llanc oedd gyda meibion Bilha, a chyda meibion Silpa, gwragedd ei dad; a Joseff a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad.
3 Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseff na'i holl feibion, oblegid efe oedd fab ei henaint ef: ac efe a wnaeth siaced fraith iddo ef.
4 A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na'i holl frodyr, hwy a'i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan ag ef yn heddychol.
5 A Joseff a freuddwydiodd freuddwyd, ac a'i mynegodd i'w frodyr: a hwy a'i casasant ef eto yn ychwaneg.
6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, atolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i.
7 Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes; ac wele, fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymasant i'm hysgub i.
8 A'i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant eto ei gasâu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.