25 A hwy a eisteddasant i fwyta bwyd; ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i'r Aifft, a'u camelod yn dwyn llysiau, a balm, a myrr.
26 A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef?
27 Deuwch, a gwerthwn ef i'r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef; oblegid ein brawd ni a'n cnawd ydyw efe. A'i frodyr a gytunasant.
28 A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio, y tynasant ac y cyfodasant Joseff i fyny o'r pydew, ac a werthasant Joseff i'r Ismaeliaid er ugain darn o arian: hwythau a ddygasant Joseff i'r Aifft.
29 A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseff yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad;
30 Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, Y llanc nid yw acw; a minnau, i ba le yr af fi?
31 A hwy a gymerasant siaced Joseff, ac a laddasant fyn gafr, ac a drochasant y siaced yn y gwaed.