30 Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, Y llanc nid yw acw; a minnau, i ba le yr af fi?
31 A hwy a gymerasant siaced Joseff, ac a laddasant fyn gafr, ac a drochasant y siaced yn y gwaed.
32 Ac a anfonasant y siaced fraith, ac a'i dygasant at eu tad, ac a ddywedasant, Hon a gawsom: myn wybod yn awr, ai siaced dy fab yw hi, ai nad e.
33 Yntau a'i hadnabu hi, ac a ddywedodd, Siaced fy mab yw hi; bwystfil drwg a'i bwytaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Joseff.
34 A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer.
35 A'i holl feibion, a'i holl ferched, a godasant i'w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddiau disgynnaf yn alarus at fy mab i'r beddrod: a'i dad a wylodd amdano ef.
36 A'r Midianiaid a'i gwerthasant ef i'r Aifft, i Potiffar tywysog Pharo, a'r distain.