4 A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na'i holl frodyr, hwy a'i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan ag ef yn heddychol.
5 A Joseff a freuddwydiodd freuddwyd, ac a'i mynegodd i'w frodyr: a hwy a'i casasant ef eto yn ychwaneg.
6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, atolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i.
7 Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes; ac wele, fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymasant i'm hysgub i.
8 A'i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant eto ei gasâu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.
9 Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall, ac a'i mynegodd i'w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, yr haul, a'r lleuad, a'r un seren ar ddeg, yn ymgrymu i mi.
10 Ac efe a'i mynegodd i'w dad, ac i'w frodyr. A'i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a'th fam, a'th frodyr, i ymgrymu i lawr i ti?