1 A Joseff a ddygwyd i waered i'r Aifft: a Potiffar yr Eifftwr, tywysog Pharo a'i ddistain, a'i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a'i dygasant ef i waered yno.
2 Ac yr oedd yr Arglwydd gyda Joseff, ac efe oedd ŵr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Eifftiad.
3 A'i feistr a welodd fod yr Arglwydd gydag ef, a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe.
4 A Joseff a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a'i gwasanaethodd ef: yntau a'i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.
5 Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i'r Arglwydd fendithio tŷ'r Eifftiad, er mwyn Joseff: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes.