10 A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseff beunydd, ac yntau heb wrando arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyda hi.
11 A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseff ddyfod i'r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ.
12 Hithau a'i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan.
13 A phan welodd hi adael ohono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi ohono allan;
14 Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i'n gwaradwyddo: daeth ataf fi i orwedd gyda myfi; minnau a waeddais â llef uchel;
15 A phan glywodd efe ddyrchafu ohonof fi fy llef, a gweiddi; yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan.
16 A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.