19 A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi; yna yr enynnodd ei lid ef.
20 A meistr Joseff a'i cymerth ef, ac a'i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharorion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy.
21 Ond yr Arglwydd oedd gyda Joseff, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy.
22 A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseff yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur.
23 Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a'r a oedd dan ei law ef, am fod yr Arglwydd gydag ef; a'r hyn a wnâi efe, yr Arglwydd a'i llwyddai.