1 Ac Adda a adnabu Efa ei wraig: a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais ŵr gan yr Arglwydd.
2 A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio'r ddaear.
3 A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i'r Arglwydd.
4 Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o'u braster hwynt. A'r Arglwydd a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm:
5 Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A dicllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynepryd ef.
6 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynepryd?