15 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A'r Arglwydd a osododd nod ar Cain, rhag i neb a'i caffai ei ladd ef.
16 A Chain a aeth allan o ŵydd yr Arglwydd, ac a drigodd yn nhir Nod, o'r tu dwyrain i Eden.
17 Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ôl enw ei fab, Enoch.
18 Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehwiael, a Mehwiael a genhedlodd Methwsael, a Methwsael a genhedlodd Lamech.
19 A Lamech a gymerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Ada, ac enw yr ail Sila.
20 Ac Ada a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail.
21 Ac enw ei frawd ef oedd Jwbal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ.