1 A Darfu wedi'r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aifft, a'r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft.
2 A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen‐trulliad, a'r pen‐pobydd:
3 Ac a'u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ'r distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseff yn rhwym.
4 A'r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy; ac efe a'u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.
5 A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aifft, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.
6 A'r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.