16 Pan welodd y pen‐pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseff, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd‐dyllog ar fy mhen.
17 Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharo o waith pobydd; a'r ehediaid yn eu bwyta hwynt o'r cawell oddi ar fy mhen.
18 A Joseff a atebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell.
19 O fewn tri diwrnod eto y cymer Pharo dy ben di oddi arnat, ac a'th groga di ar bren; a'r ehediaid a fwytânt dy gnawd di oddi amdanat.
20 Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo: ac efe a wnaeth wledd i'w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen‐trulliad, a'r pen‐pobydd ymysg ei weision.
21 Ac a osododd y pen‐trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo.
22 A'r pen‐pobydd a grogodd efe; fel y deonglasai Joseff iddynt hwy.