20 Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo: ac efe a wnaeth wledd i'w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen‐trulliad, a'r pen‐pobydd ymysg ei weision.
21 Ac a osododd y pen‐trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo.
22 A'r pen‐pobydd a grogodd efe; fel y deonglasai Joseff iddynt hwy.
23 Ond y pen‐trulliad ni chofiodd Joseff, eithr anghofiodd ef.