3 Ac a'u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ'r distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseff yn rhwym.
4 A'r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy; ac efe a'u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.
5 A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aifft, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.
6 A'r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.
7 Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw?
8 A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi.
9 A'r pen‐trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o'm blaen;