6 A'r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.
7 Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw?
8 A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi.
9 A'r pen‐trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o'm blaen;
10 Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaen‐darddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed.
11 Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo.
12 A Joseff a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw'r tair cainc.