9 A'r pen‐trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o'm blaen;
10 Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaen‐darddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed.
11 Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo.
12 A Joseff a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw'r tair cainc.
13 O fewn tri diwrnod eto Pharo a ddyrchafa dy ben di, ac a'th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddit drulliad iddo.
14 Eto cofia fi gyda thi, pan fo daioni i ti, a gwna, atolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharo, a dwg fi allan o'r tŷ hwn:
15 Oblegid yn lladrad y'm lladratawyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi yng ngharchar.