13 A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i'm swydd; ac yntau a grogodd efe.
14 Pharo, gan hynny, a anfonodd ac a alwodd am Joseff: hwythau ar redeg a'i cyrchasant ef o'r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharo.
15 A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd amdanat ti, y medri ddeall breuddwyd i'w ddehongli.
16 A Joseff a atebodd Pharo, gan ddywedyd, Nid myfi; Duw a etyb lwyddiant i Pharo.
17 A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.
18 Ac wele yn esgyn o r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg; ac mewn gweirglodd‐dir y porent.
19 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft.