18 Ac wele yn esgyn o r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg; ac mewn gweirglodd‐dir y porent.
19 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft.
20 A'r gwartheg culion a drwg a fwytasant y saith muwch tewion cyntaf.
21 Ac er eu myned i'w boliau, ni wyddid iddynt fyned i'w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad. Yna mi a ddeffroais.
22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg yn cyfodi o'r un gorsen.
23 Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hôl hwynt.
24 A'r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a'i dehonglai i mi.