25 A dywedodd Joseff wrth Pharo, Breuddwyd Pharo sydd un yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharo.
26 Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a'r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt y breuddwyd un yw.
27 Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hôl hwynt, saith mlynedd ydynt; a'r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyreinwynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.
28 Hyn yw'r peth a ddywedais i wrth Pharo: Yr hyn a wna Duw, efe a'i dangosodd i Pharo.
29 Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aifft.
30 Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aifft: a'r newyn a ddifetha'r wlad.
31 Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, oherwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd.