38 A dywedodd Pharo wrth ei weision, A gaem ni ŵr fel hwn, yr hwn y mae ysbryd Duw ynddo?
39 Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Gan wneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb â thydi.
40 Tydi a fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrngadair yn unig y byddaf fwy na thydi.
41 Yna y dywedodd Pharo wrth Joseff, Edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aifft.
42 A thynnodd Pharo ei fodrwy oddi ar ei law, ac a'i rhoddes hi ar law Joseff, ac a'i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef;
43 Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail gerbyd oedd ganddo; a llefwyd o'i flaen ef, Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aifft.
44 Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Myfi yw Pharo, ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law na'i droed, trwy holl wlad yr Aifft.