44 Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Myfi yw Pharo, ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law na'i droed, trwy holl wlad yr Aifft.
45 A Pharo a alwodd enw Joseff, Saffnath‐Panea; ac a roddes iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseff allan dros wlad yr Aifft.
46 A Joseff ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharo brenin yr Aifft: a Joseff a aeth allan o ŵydd Pharo, ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.
47 A'r ddaear a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau.
48 Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu yng ngwlad yr Aifft, ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes, yr hwn fyddai o amgylch pob dinas, a roddes efe i gadw ynddi.
49 A Joseff a gynullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra lluosog, hyd oni pheidiodd â'i rifo: oblegid yr ydoedd heb rifedi.
50 Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, y ganwyd i Joseff ddau fab, y rhai a ymddûg Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.