48 Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu yng ngwlad yr Aifft, ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes, yr hwn fyddai o amgylch pob dinas, a roddes efe i gadw ynddi.
49 A Joseff a gynullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra lluosog, hyd oni pheidiodd â'i rifo: oblegid yr ydoedd heb rifedi.
50 Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, y ganwyd i Joseff ddau fab, y rhai a ymddûg Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.
51 A Joseff a alwodd enw ei gyntaf‐anedig, Manasse: Oblegid (eb efe) Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll.
52 Ac efe a alwodd enw yr ail, Effraim: Oblegid (eb efe) Duw a'm ffrwythlonodd i yng ngwlad fy ngorthrymder.
53 Darfu'r saith mlynedd o amldra, y rhai a fu yng ngwlad yr Aifft.
54 A'r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod, fel y dywedasai Joseff: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aifft yr ydoedd bara.