5 Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o rai breisgion a da.
6 Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hôl hwynt.
7 A'r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharo; ac wele breuddwyd oedd.
8 A'r bore y bu i'w ysbryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aifft a'i holl ddoethion hi: a Pharo a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a'u dehonglai hwynt i Pharo.
9 Yna y llefarodd y pen‐trulliad wrth Pharo, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw.
10 Llidio a wnaethai Pharo wrth ei weision; ac efe a'm rhoddes mewn carchar yn nhŷ'r distain, myfi a'r pen‐pobydd.
11 A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd.