24 Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd; ac a ddaeth eilchwyl atynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymerth o'u mysg hwynt Simeon, ac a'i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.
25 Joseff hefyd a orchmynnodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un ohonynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i'w fwyta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy.
26 Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno.
27 Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i'w asyn yn y llety; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef.
28 Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian; ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan: yna y digalonasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth Duw i ni hyn?
29 A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan; ac a fynegasant iddo ef eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,
30 Dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a'n cymerth ni fel ysbïwyr y wlad.