1 A'r newyn oedd drwm yn y wlad.
2 A bu, wedi iddynt fwyta yr ŷd a ddygasent o'r Aifft, ddywedyd o'u tad wrthynt hwy, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.
3 A Jwda a atebodd, gan ddywedyd, Gan rybuddio y rhybuddiodd y gŵr nyni, gan ddywedyd, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi.
4 Os anfoni ein brawd gyda ni, ni a awn i waered, ac a brynwn i ti luniaeth.
5 Ond os ti nid anfoni, nid awn i waered; oblegid y gŵr a ddywedodd wrthym ni, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi.