23 Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich Duw chwi, a Duw eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi ataf fi. Ac efe a ddug Simeon allan atynt hwy.
24 A'r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff, ac a roddes ddwfr, a hwy a olchasant eu traed; ac efe a roddes ebran i'w hasynnod hwynt.
25 Hwythau a baratoesant eu hanrheg erbyn dyfod Joseff ar hanner dydd: oblegid clywsent mai yno y bwytaent fara.
26 Pan ddaeth Joseff i'r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i'r tŷ, ac a ymgrymasant iddo ef hyd lawr.
27 Yntau a ofynnodd iddynt am eu hiechyd, ac a ddywedodd, Ai iach yr hen ŵr eich tad chwi, yr hwn y soniasoch amdano? ai byw efe eto?
28 Hwythau a ddywedasant, Iach yw dy was, ein tad ni: byw yw efe eto. Yna yr ymgrymasant, ac yr ymostyngasant.
29 Yntau a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Benjamin, mab ei fam ei hun; ac a ddywedodd, Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi, am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi? Yna y dywedodd, Duw a roddo ras i ti, fy mab.