30 A Joseff a frysiodd, (oblegid cynesasai ei ymysgaroedd ef tuag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i'r ystafell, ac a wylodd yno.
31 Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymataliodd, ac a ddywedodd, Gosodwch fara.
32 Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun, ac i'r Eifftiaid y rhai oedd yn bwyta gydag ef wrthynt eu hunain: oblegid ni allai'r Eifftiaid fwyta bara gyda'r Hebreaid; oherwydd ffieidd‐dra oedd hynny gan yr Eifftiaid.
33 Yna yr eisteddasant ger ei fron ef, y cyntaf‐anedig yn ôl ei gyntafenedigaeth, a'r ieuangaf yn ôl ei ieuenctid: a rhyfeddodd y gwŷr bob un wrth ei gilydd.
34 Yntau a gymerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Benjamin o bum rhan na seigiau yr un ohonynt oll. Felly yr yfasant ac y gwleddasant gydag ef.