4 Os anfoni ein brawd gyda ni, ni a awn i waered, ac a brynwn i ti luniaeth.
5 Ond os ti nid anfoni, nid awn i waered; oblegid y gŵr a ddywedodd wrthym ni, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi.
6 Ac Israel a ddywedodd, Paham y drygasoch fi, gan fynegi i'r gŵr fod i chwi eto frawd?
7 Hwythau a ddywedasant, Gan ymofyn yr ymofynnodd y gŵr amdanom ni, ac am ein cenedl, gan ddywedyd, Ai byw eich tad chwi eto? Oes frawd arall i chwi? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ôl y geiriau hynny: a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe, Dygwch eich brawd i waered?
8 Jwda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, Gollwng y bachgen gyda mi, ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith; fel y byddom byw, ac na byddom feirw, nyni, a thithau, a'n plant hefyd.
9 Myfi a fechnïaf amdano ef; o'm llaw i y gofynni ef: onis dygaf ef atat ti, a'i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i'th erbyn byth.
10 Canys, pe na buasem hwyrfrydig, daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach.