9 Myfi a fechnïaf amdano ef; o'm llaw i y gofynni ef: onis dygaf ef atat ti, a'i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i'th erbyn byth.
10 Canys, pe na buasem hwyrfrydig, daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach.
11 Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn; cymerwch o ddewis ffrwythau'r wlad yn eich llestri, a dygwch yn anrheg i'r gŵr, ychydig falm, ac ychydig fêl, llysiau, a myrr, cnau, ac almonau.
12 Cymerwch hefyd ddau cymaint o arian gyda chwi; a dygwch eilwaith gyda chwi yr arian a roddwyd drachefn yng ngenau eich sachau: ond odid amryfusedd fu hynny.
13 Hefyd cymerwch eich brawd, a chyfodwch, ewch eilwaith at y gŵr.
14 A Duw Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y gŵr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Benjamin: minnau fel y'm diblantwyd, a ddiblentir.
15 A'r gwŷr a gymerasant yr anrheg honno, a chymerasant arian yn ddwbl yn eu llaw, a Benjamin hefyd; a chyfodasant, ac a aethant i waered i'r Aifft, a safasant gerbron Joseff.