18 Yna yr aeth Jwda ato ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, atolwg, dy was ddywedyd gair yng nghlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy was: oherwydd yr wyt ti megis Pharo.
19 Fy arglwydd a ymofynnodd â'i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd?
20 Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen ŵr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a'i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o'i fam ef; a'i dad sydd hoff ganddo ef.
21 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Dygwch ef i waered ataf fi, fel y gosodwyf fy llygaid arno.
22 A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llanc ni ddichon ymadael â'i dad: oblegid os ymedy efe â'i dad, marw fydd ei dad.
23 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyda chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.
24 Bu hefyd, wedi ein myned ni i fyny at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd.