21 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Dygwch ef i waered ataf fi, fel y gosodwyf fy llygaid arno.
22 A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llanc ni ddichon ymadael â'i dad: oblegid os ymedy efe â'i dad, marw fydd ei dad.
23 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyda chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.
24 Bu hefyd, wedi ein myned ni i fyny at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd.
25 A dywedodd ein tad, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.
26 Dywedasom ninnau, Nis gallwn fyned i waered: os bydd ein brawd ieuangaf gyda ni, nyni a awn i waered; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y gŵr, oni bydd ein brawd ieuangaf gyda ni.
27 A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi;