4 Hwythau a aethant allan o'r ddinas. Ac nid aethant nepell, pan ddywedodd Joseff wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Cyfod, a dilyn ar ôl y gwŷr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda?
5 Onid dyma'r cwpan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.
6 Yntau a'u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.
7 Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ato Duw i'th weision di wneuthur y cyfryw beth.
8 Wele, ni a ddygasom atat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom yng ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrataem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di?
9 Yr hwn o'th weision di y ceffir y cwpan gydag ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaethweision i'm harglwydd.
10 Yntau a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwpan gydag ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddieuog.