9 Yr hwn o'th weision di y ceffir y cwpan gydag ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaethweision i'm harglwydd.
10 Yntau a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwpan gydag ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddieuog.
11 Hwythau a frysiasant, ac a ddisgynasant bob un ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffetan.
12 Yntau a chwiliodd; ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a'r cwpan a gafwyd yn sach Benjamin.
13 Yna y rhwygasant eu dillad, ac a byniasant bawb ar ei asyn, ac a ddychwelasant i'r ddinas.
14 A daeth Jwda a'i frodyr i dŷ Joseff, ac efe eto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.
15 A dywedodd Joseff wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr gŵr fel myfi ddewiniaeth?