22 I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phum pâr o ddillad.
23 Hefyd i'w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft, a deg o asennod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd i'w dad ar hyd y ffordd.
24 Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.
25 Felly yr aethant i fyny o'r Aifft, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Jacob;
26 Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Joseff eto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aifft. Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu.
27 Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Joseff, y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy. A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Joseff i'w ddwyn ef, yna y bywiogodd ysbryd Jacob eu tad hwynt.
28 A dywedodd Israel, Digon ydyw; y mae Joseff fy mab eto yn fyw: af, fel y gwelwyf ef cyn fy marw.