6 Oblegid dyma ddwy flynedd o'r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd eto bum mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi.
7 A Duw a'm hebryngodd i o'ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared.
8 Ac yr awr hon nid chwi a'm hebryngodd i yma, ond Duw: ac efe a'm gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft.
9 Brysiwch, ac ewch i fyny at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseff: Duw a'm gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft: tyred i waered ataf; nac oeda:
10 A chei drigo yng ngwlad Gosen, a bod yn agos ataf fi, ti a'th feibion, a meibion dy feibion, a'th ddefaid, a'th wartheg, a'r hyn oll sydd gennyt:
11 Ac yno y'th borthaf; (oblegid pum mlynedd o'r newyn a fydd eto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a'th deulu, a'r hyn oll sydd gennyt.
12 Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled, mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych.