1 Yna y cychwynnodd Israel, a'r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beer‐seba, ac a aberthodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac.
2 A llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Jacob, Jacob. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
3 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw, Duw dy dad: nac ofna fyned i waered i'r Aifft; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.
4 Myfi a af i waered gyda thi i'r Aifft; a myfi gan ddwyn a'th ddygaf di i fyny drachefn: Joseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di.