10 A meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Sohar, a Saul mab Canaanëes.
11 Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari.
12 A meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela, Phares hefyd, a Sera: a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oedd Hesron a Hamul.
13 Meibion Issachar hefyd; Tola, a Phufa, a Job, a Simron.
14 A meibion Sabulon; Sered, ac Elon, a Jaleel.
15 Dyma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Jacob ym Mesopotamia, a Dina ei ferch: ei feibion a'i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain.
16 A meibion Gad; Siffion, a Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.