15 Dyma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Jacob ym Mesopotamia, a Dina ei ferch: ei feibion a'i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain.
16 A meibion Gad; Siffion, a Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.
17 A meibion Aser; Jimna, ac Isua, ac Isui, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. A meibion Bereia; Heber a Malchiel.
18 Dyma feibion Silpa, yr hon a roddodd Laban i Lea ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, sef un dyn ar bymtheg.
19 Meibion Rahel, gwraig Jacob, oedd Joseff a Benjamin.
20 Ac i Joseff y ganwyd, yn nhir yr Aifft, Manasse ac Effraim, y rhai a blantodd Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.
21 A meibion Benjamin; Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, Ehi, a Ros, Muppim, a Huppim, ac Ard.